28 Hydref 2016

Annwyl Syr / Madam

Ymchwiliad i Strategaeth newydd y Gymraeg

Daw strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg i ben ar 31 Mawrth 2017. Ar 1 Awst, lansiodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a'r Prif Weinidog ymgynghoriad ar y strategaeth newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 31 Hydref.

Nododd Llywodraeth Cymru ei huchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ôl y Cyfrifiad diweddaraf yn 2011, mae 562,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Golyga hyn mai nod y strategaeth yw dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif.

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi penderfynu ei bod yn amser delfrydol i gynnal ymchwiliad i’r strategaeth newydd. Nod yr ymchwiliad yw rhoi trywydd ar gyfer y strategaeth newydd a dylanwadu arni yn y cyfnod cynllunio hwn.

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Hoffem glywed cynifer o safbwyntiau â phosib, o bob cwr o Gymru, i lywio’r ymchwiliad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi mai un o’i phrif amcanion yw creu gweithlu sydd â'r sgiliau priodol i addysgu a darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, felly hoffem glywed eich barn ynghylch y canlynol:

-     Gwella’r modd yr ydym yn cynllunio'r gweithlu ac yn cefnogi ymarferwyr ym mhob cyfnod yn y maes addysg; a

-     Sicrhau gweithlu digonol ar gyfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu Cymraeg fel pwnc.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau fel ei gilydd, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisi iaith eu hunain ymateb yn ddwyieithog yn unol â gofynion y polisi hwnnw.

Ni ddylai tystiolaeth ysgrifenedig fod yn hwy na phum ochr o bapur A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylid canolbwyntio ar y materion a nodir uchod.  Dylai’r sawl sy'n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau ddarllen y canllawiau.

Cyflwyno tystiolaeth

Mae gwybodaeth gyffredinol am weithdrefnau'r ymgynghoriad i’w chael yn yr Atodiad. Dylid ei ddarllen yn ofalus cyn cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor. Yna, anfonwch eich tystiolaeth ar ffurf electronig at: SeneddDGCh@cynulliad.cymru

Os yw’n well gennych anfon copi caled o’ch tystiolaeth, gellir gwneud hynny at:

Steve George
Clerc
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Dylai ymatebion ddod i law erbyn dydd Mercher 30 Tachwedd 2016. Mae’n bosib na fydd modd ystyried ymatebion sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Steve George, Clerc y Pwyllgor ar 0300 200 6565.

Yn gywir,

Bethan Jenkins AC / AM

Cadeirydd / Chair


 

Atodiad

Cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor

Datgelu gwybodaeth

1. Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma; gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Fel arall, mae croeso i chi gysylltu â'r Clerc i ofyn am gopi caled o'r polisi hwn.

Cyflwyno tystiolaeth

2. Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o'ch ffurflen i SeneddDGCh@cynulliad.cymru

3. Dylai unrhyw gyflwyniadau gyrraedd erbyn 30 Tachwedd 2016. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

4. Wrth baratoi eich tystiolaeth, cadwch y canlynol mewn cof:

·         dylai eich ymateb gyfeirio at y materion sydd gerbron y Pwyllgor, a dylid ei gyfyngu i'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad.

·         bydd y Cynulliad Cenedlaethol fel rheol yn sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar gael i'r cyhoedd, ac efallai y cânt eu gweld a’u trafod gan Aelodau’r Cynulliad yng nghyfarfodydd y Pwyllgor. Os nad ydych am i’ch ymateb na’ch enw gael eu cyhoeddi, mae’n bwysig eich bod yn nodi hynny’n glir wrth gyflwyno’r dystiolaeth; a

·         nodwch pa un ai fel unigolyn ai ar ran sefydliad yr ydych yn ymateb.

Canllawiau ar gyfer tystion sy'n darparu tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau

5. Mae'r Cynulliad yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth hygyrch i'r gynulleidfa ehangaf bosibl. Diben y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy’n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau. Bydd hyn yn galluogi’r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.

·         Defnyddiwch Gymraeg a Saesneg clir gan osgoi jargon diangen.

·         Defnyddiwch ffont maint 12 o leiaf.

·         Defnyddiwch ffont fel Lucida Sans, sy'n ffont glir sans-seriff.

·         Peidiwch ag ysgrifennu testun dros luniau, graffeg neu ddyfrnodau.

·         Lliwiau a chyferbyniad - dylai’r ysgrifen gyferbynnu gymaint â phosibl â’r cefndir: ysgrifen dywyll ar gefndir golau, ac ysgrifen olau ar gefndir tywyll.

·         Peidiwch â defnyddio priflythrennau bloc, a cheisiwch osgoi defnyddio print trwm, print italig a thanlinellu.

·         Os ydych yn cyfeirio at ddogfen sydd wedi'i chyhoeddi, rhowch hyperlinc at y ddogfen honno.

6. Pryd bynnag y bo modd, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word (ac ar y ffurflen a ddarperir) er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch. Pan fyddwch chi’n cyflwyno sgan neu ddogfen PDF, yn enwedig llythyrau wedi’u llofnodi neu dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno’r ddogfen Word wreiddiol hefyd.

7. Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor wedi gwahodd amrywiaeth eang o sefydliadau i roi sylwadau; mae rhestr o'r rhain ar gael ar gais. Mae copi o’r llythyr hwn hefyd wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau. Fodd bynnag, byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr ymgynghori a'r Atodiad at unrhyw unigolyn neu sefydliad y credwch yr hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad.